Enwi'r bysedd
Modryb y fawd, 
Bys yr uwd, 
Hirfys, 
Cwtfys, 
Robin ewin bach.
Robin y fawd 
Bys yr Uwd 
Pen y Gogor 
Dic y Peper ac 
Ali Co Bach.
Bawd mawr, 
bys yr uwd, 
hirfys, 
byrfys 
a'r widw fach.
Robin y Bawd, 
Bys yr Uwd, 
Corn y Clagwydd, 
Bys Bach 
a’r Ewin Fychan.
Modryb y fawd 
Bys yr Uwd 
Pen y gogor 
Dic y bibell 
A Sionyn bach bach.
Modryb Bawd, 
Bys yr Uwd, 
Hir Fys, 
Corfys, 
a’r Bys Bach cyfrwys.
Modryb y Fawd, 
Bys yr Uwd, 
Hir Fys, 
Cwt Fys, 
a Robin yr Ewin Fach.
Modryb Bawd, 
Bys yr Uwd, 
Hir Fys, 
Cwt Fys, 
a’r bys bach lleiaf i gyd.
Modryb y fawd 
Bys yr uwd, 
Pen y cogwr, 
Dic y peipar 
Joli cwt bach.
Beni, Beni, 
Brawd Beni, beni 
Sioencyn Crogwr 
Bys bach olaf un, yn gas i bawb arall 
Yn dda iddo’i hun.
Bys twmpyn, 
Twm swchlyn, 
Long Harries, 
Short Morris, 
Wil bach.
Bys brwcsyn, 
Tom Sgwlyn, 
Long Harris, 
Jac Dafis 
Sut mae heddiw Bili bach?
Bowden, 
Gwas y Fowden, 
Ibil, Obal, 
Gwas y Stabal, 
A’r bys bach, druan gŵr, 
Dorrodd ei ben wrth gario dŵr.
Bowden, 
Gwas y Fowden, 
Libar labar, 
Gwas y stabal, 
Bys bach, druan gŵr, 
Dorrodd ei ben wrth gario dŵr 
I mam i dylino.
Beni beni, 
Cefnder beni, 
Beni dapwr, 
Cefnder beni dapwr, 
Bys bach, druan gwr, 
Tynnu'r drain trwy'r dwr.
Feni, Feni, Feni, 
Cefnder Feni Feni, 
Twm Barbwr, 
Dai’r Badwr, 
Yn llusgo drain trwy y dŵr 
A chario tân i Fari.
Bawdyn, 
Gwas y Bawdyn, 
Ibil Obal, 
Gwas y Stabal, 
Truan bach dorrodd ei ben, 
trwy gario dŵr i’w fam.
Fini, Fini, fawd 
Brawd y Fini fawd, 
Wili Bibi, 
Siôn Bobwr, 
Bys bach druan gŵr, 
Dal ’i ben o dan y dŵr.
Anhysbys
The names of the fingers
Thumb, 
index finger, 
middle finger, 
ring finger, 
little finger.
[pitiful man, 
 broke his head while carrying water.] 
Unknown
