Gee Ceffyl Bach
Gee ceffyl bach yn cario ni'n dau
dros y mynydd i hela cnau
dŵr yn yr afon a'r cerrig yn slic
cwympo ni'n dau, wel dyna i chi dric!
Cwyd Robin bach a saf ar dy draed
sych dy lygaid, anghofia'r gwaed
neidiwn ein dau ar ein ceffyl bach gwyn
i fyny'r mynydd ac i lawr y glyn.
Gee ceffyl bach dros frigau y coed
fel tylwyth teg mor ysgafn dy droed
carlam ar garlam ar y cwmwl mawr gwyn
neid dros y lleuad ac i lawr at y llyn.
Traddodiadol
Gee Little Horse
Gee up little horse carrying us two,
over the mountain to hunt nuts,
water in the river and the stone are slippery,
we both fall, well that's the trick!
Get up little Robin, stand on your feet
dry your eyes, forget the blood,
we'll jump on our little white horse,
up the mountain and down the glen
Gee up little horse over the branches of the wood
like fairies, so light footed
gallop and gallop on the big white cloud
jump over the moon and down to the lake
Traditional