Logo Hwiangerddi dot Cymru

Bachgen bach o dincer

Bachgen bach o dincer
yn crwydro hyd y wlad
cario'i becyn ar ei gefn
a gweithio'i waith yn rhad.
Yn ei law roedd haearn
ac ar ei gefn roedd bocs,
pwt o getyn yn ei geg
a dan ei drwyn roedd locs.

Cydio yn y babell,
y piser neu'r ystên;
taro'r haearn yn y tân
a dal i sgwrsio'n glên;
eistedd yn y gongol,
un goes ar draws y llall,
taenu'r sodor gloyw glân
i gywrain guddio'r gwall.

Holi hwn ac arall
ble'r aeth y tincer mwyn,
gyda'i becyn ar ei gefn
a'i getyn dan ei drwyn.
Bachgen bach o dincer
ni welir yn y wlad;
ow! mae'n golled ar ei ôl
i weithio gwaith yn rhad.

Traddodiadol

A little tinker boy

A little tinker boy
wandering the countryside
carrying his pack on his back
and doing his work cheaply.
In his hand an iron
and on his back a box,
a little pipe in his mouth
and under his nose, whiskers.

Taking up a pitcher,
a pot or frying pan;
placing the iron in the fire,
while talking in a friendly manner;
sitting in the corner,
one leg over the other,
spreading the clean and shiny solder
to mend the defect tidily.

We ask different people
where the kind tinker has gone,
with his pack on his back
and his pipe under his nose.
the little tinker boy
is nowhere to be seen;
oh what a loss it is –
he did his work so cheaply.

Traditional

X

Amdanom

Fel siaradwr ail iaith gyda phlentyn bach, sylweddolais na wyddem y geiriau na’r tonau i’r hwiangerddi Cymraeg. Bu rhaid i mi eu ddysgu gair am air a nodyn wrth nodyn oddi wrth fy ngwraig amyneddgar, tra bod hi’n canu i'm merch fach. Rwy’n siwr nad wyf ar fy hun yn y sefyllfa yma, felly creuais i’r wefan yma i geisio helpu fy hun ac eraill.

I built this website because (as a second language Welsh speaker) I neither know the words nor the tunes to any Welsh language nursery rhymes, and am learning them slowly and painfully from my wonderful and patient wife as we sing them to my wonderful daughter. Thank you both for your patience with your tone deaf father / husband, and I hope this resource helps some others out there in my position.

X

Polisi cwcis

Ni ddefnwyddir cwcis ar y wefan yma (heblaw y mewnblaniadau SoundCloud). Er rydyn ni yn achlysurol yn mwynau cwci gyda phaned o de tra’n canu ei’n hoff hwiangerddi, ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod gysylltiedig â cwcis

This website doesn't use cookies (although the SoundCloud embeds look like they do). We do however enjoy the occasional cookie and cuppa while enjoying singing some of our favourate nursery rhymes. But please don't overdo it, we cannot accept any responsibility for cookie related injuries or illness.