Os gwelwch yn dda ga'i crempog?
Modryb Elin Ennog,
os gwelwch chi'n dda ga' i grempog?
Cewch chithau de a siwgwr gwyn,
a phwdin lond eich ffedog.
Modryb Elin Ennog,
mae 'ngheg i'n grimp am grempog,
mae mam yn rhy dlwad i brynu blawd,
a Siân yn rhy ddiog i nôl y triog,
a 'nhad yn rhy wael i weithio,
os gwelwch chi'n dda ga' i grempog?
Modryb Gwenno Elin,
a ddawch i at lyn y felin?
Mae'r alarch gwyn yn nofio'r llyn
a'i ben o dan ei benelin;
Modryb Gwenno Elin,
mae olwyn ddŵr y felin
yn mynd ar ei hynt, yn gynt a chynt,
a'r alarch a'i aden ar ôl yr hwyaden;
a ddawch i fy Modryb Elin
i fyny at lyn y felin?
Traddodiadol
Please may I have a pancake?
Aunty Elin Ennog,
please can I have a pancake?
You may have tea and white sugar,
and an apron full of pudding.
Aunty Elin Ennog,
my mouth is ready for pancake,
mum is too poor to buy flour,
and Sian is too lazy to get the treacle,
and Dad it too ill to work,
please can I have a pancake?
Aunty Gwenno Elin,
will you come to the mill’s lake?
The white swan swims in the lake
with his head under his elbow;
Aunty Gwenno Elin,
the mill’s water wheel
goes round, faster and faster,
and the swan with his wings goes after the duck;
will you Aunty Elin come
up to the mill’s lake?
Traditional