Logo Hwiangerddi dot Cymru

Calon lân

Nid wyf gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.

Cytgan: 
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.

Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.

(Cytgan)

Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i'r nef ar adain cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.

(Cytgan)

gan Daniel James (1848 - 1920) a John Hughes (1872 - 1914)

Pure heart

I don’t ask for a luxurious life,
The world’s gold or it’s fine pearls:
I [only] ask for a happy heart,
An honest heart, a pure heart.

Chorus:
A pure heart full of goodness,
Fairer than the pretty lily:
Only a pure heart can sing
Sing the day and sing the night.

If I were to wish for worldly riches,
It would swiftly go to seed;
The riches of a virtuous pure heart
Will bring eternal profit.

(Chorus)

Evening and morning, my wish
Rising to heaven on the wing of a song
For God, for the sake of my saviour,
Grant me a pure heart.

(Chorus)

by Daniel James (1848 - 1920) and John Hughes (1872 - 1914)

X

Amdanom

Fel siaradwr ail iaith gyda phlentyn bach, sylweddolais na wyddem y geiriau na’r tonau i’r hwiangerddi Cymraeg. Bu rhaid i mi eu ddysgu gair am air a nodyn wrth nodyn oddi wrth fy ngwraig amyneddgar, tra bod hi’n canu i'm merch fach. Rwy’n siwr nad wyf ar fy hun yn y sefyllfa yma, felly creuais i’r wefan yma i geisio helpu fy hun ac eraill.

I built this website because (as a second language Welsh speaker) I neither know the words nor the tunes to any Welsh language nursery rhymes, and am learning them slowly and painfully from my wonderful and patient wife as we sing them to my wonderful daughter. Thank you both for your patience with your tone deaf father / husband, and I hope this resource helps some others out there in my position.

X

Polisi cwcis

Ni ddefnwyddir cwcis ar y wefan yma (heblaw y mewnblaniadau SoundCloud). Er rydyn ni yn achlysurol yn mwynau cwci gyda phaned o de tra’n canu ei’n hoff hwiangerddi, ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod gysylltiedig â cwcis

This website doesn't use cookies (although the SoundCloud embeds look like they do). We do however enjoy the occasional cookie and cuppa while enjoying singing some of our favourate nursery rhymes. But please don't overdo it, we cannot accept any responsibility for cookie related injuries or illness.