Logo Hwiangerddi dot Cymru

Y gwydr glas

Os daw 'nghariad yma heno, yma heno i guro'r gwydyr glas.
Rhowch ateb gweddus iddo, gweddus iddo, na atebwch mono'n gas
Nad ydyw'r ferch ddim gartre na'i h'wyllys da'n y tŷ,
Llanc ifanc o'r plwy aralI, o'r plwy arall sydd wedi mynd â hi.

Pe meddwn edyn eryr, edyn eryr, mi fyddwn lawer gwell
I hedeg at fy nghariad, at fy nghariad, sydd yn y gwledydd pell;
Dros diroedd maith a moroedd, gobeithio'i fod o'n iach –
Rwy'n caru'r tir lIe cerddodd, tir lle cerddodd o wraidd fy nghalon fach.

Fy nghalon sydd cyn drymed, sydd cyn drymed a'r march sy'n dringo'r rhiw.
Wrth geisio bod yn llawen, bod yn llawen, ni fedrwn yn fy myw.
Mae'r esgid yn fy ngwasgu mewn man nas gwyddoch chi
A llawer gofid meddwl, gofid meddwl sy'n torrri nghalon i.

The blue glass

If my love will come here tonight, here tonight to knock the blue glass.
Give a proper answer to him, proper to him, don’t give him a nasty answer
The girl isn’t in the house nor is her good will in the house,
A young lad from the other parish, from the other parish has taken her.

If you said an eagle’s wing, an eagle’s wing, I would be a lot better
to run to my love, to my love, who is in distant lands;
across far territories and seas, I hope that he is well –
I love the land where he walked, the land where he walked from the root of my dear heart.

My heart, is so heavy, is as heavy as the steed climbing the hillside.
While trying to be joyful, be joyful, I’m unable to be.
The shoe is squeezing me, in a place that you wouldn’t know
And several worrying thoughts, worrying thoughts that are breaking my heart.

X

Amdanom

Fel siaradwr ail iaith gyda phlentyn bach, sylweddolais na wyddem y geiriau na’r tonau i’r hwiangerddi Cymraeg. Bu rhaid i mi eu ddysgu gair am air a nodyn wrth nodyn oddi wrth fy ngwraig amyneddgar, tra bod hi’n canu i'm merch fach. Rwy’n siwr nad wyf ar fy hun yn y sefyllfa yma, felly creuais i’r wefan yma i geisio helpu fy hun ac eraill.

I built this website because (as a second language Welsh speaker) I neither know the words nor the tunes to any Welsh language nursery rhymes, and am learning them slowly and painfully from my wonderful and patient wife as we sing them to my wonderful daughter. Thank you both for your patience with your tone deaf father / husband, and I hope this resource helps some others out there in my position.

X

Polisi cwcis

Ni ddefnwyddir cwcis ar y wefan yma (heblaw y mewnblaniadau SoundCloud). Er rydyn ni yn achlysurol yn mwynau cwci gyda phaned o de tra’n canu ei’n hoff hwiangerddi, ni dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod gysylltiedig â cwcis

This website doesn't use cookies (although the SoundCloud embeds look like they do). We do however enjoy the occasional cookie and cuppa while enjoying singing some of our favourate nursery rhymes. But please don't overdo it, we cannot accept any responsibility for cookie related injuries or illness.